Gwasanaeth cerddoriaeth annibynnol cyntaf Cymru
Cyflenwi hyfforddiant cerdd ar draws De Cymru ers 1993.
Gadewch i ni Wneud Cerddoriaeth
Ydych chi erioed wedi meddwl am ddysgu offeryn cerdd? Ydych chi erioed wedi meddwl pa gyfleoedd a sgiliau y bydd hyn yn eu datblygu?
Mae'r fideo hon gan Wasanaeth Cerdd Caerdydd a'r Fro yn ateb rhai o'r cwestiynau hyn, a gobeithio'n annog mwy o bobl ifanc i ddechrau chwarae offeryn cerdd a mwynhau'r daith gerddorol.
Ynglŷn â Ni
Cafodd CAVMS ei sefydlu ym 1993 ac mae'n cael ei redeg gan y cyd-gyfarwyddwyr David Miller a John Murray. Erbyn hyn mae gan CAVMS dîm o dros 50 o gerddorion sy'n cyflwyno gwersi cerddoriaeth o safon ledled y De, gan addysgu dros 1,500 o fyfyrwyr bob wythnos.
Y Tîm
Mae holl aelodau tîm CAVMS yn cael eu dewis am eu gallu i ennyn brwdfrydedd y dysgwr iau a rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu a pherfformio. Mae gan bob cerddor gliriad llawn y D.B.S. (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus. Maen nhw wedi’u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ac yn dilyn hyfforddiant achrededig rheolaidd mewn Diogelu Plant. At hynny, rydyn ni’n cynnal hyfforddiant mewn swydd rheolaidd ar dechnegau arholi, methodoleg addysgu gyfredol ac unrhyw faterion perthnasol eraill.
Ein Gwerthoedd
Creadigrwydd
Rydyn ni’n credu mewn ysbrydoli creadigrwydd a datblygu dychymyg cerddorion ifanc drwy gydol eu datblygiad cerddorol.
Cynwysoldeb
Rydyn ni’n credu bod pob cerddor ifanc yn dysgu yn eu ffordd eu hunain a bydd ein tîm o gerddorion yn eu helpu ar eu siwrnai gerddoriaeth bersonol eu hunain.
Cyfle
Rydyn ni’n credu bod pob person ifanc yn haeddu'r cyfle i brofi dysgu offeryn cerdd ac i ddatblygu eu sgiliau i'w potensial llawn.
Mae'n gyflym ac yn hawdd cofrestru ar-lein Cofrestru