Polisi Cyfle Cyfartal

Pwrpas y Polisi Cyfle Cyfartal hwn yw cyfathrebu ein hymrwymiad i gyfle cyfartal, â'r nod o sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei drin yn deg ac yn gyfartal, a chefnogi amcan CAVMS o ddarparu amgylchedd gwaith sy'n rhydd rhag pob math o wahaniaethu.

Datganiad polisi

Mae CAVMS wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu cydraddoldeb yn y gweithle a rhoddir yr holl gyfleoedd i unigolion yn deg ac heb ystyried eu hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil gan gynnwys lliw, gwreiddiau ethnig neu genedlaethol a chenedligrwydd, crefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol (“y nodweddion gwarchodedig”). Ein nod yw creu amgylchedd gwaith sy'n rhydd rhag gwahaniaethu ac aflonyddu ar unrhyw ffurf, lle mae pob unigolyn yn cael ei drin ag urddas a pharch.

Ni fydd CAVMS yn gwahaniaethu'n anghyfreithlon yn y trefniadau a wneir ar gyfer recriwtio a dethol nac yn y cyfleoedd a roddir ar gyfer hyfforddiant neu unrhyw fudd arall. Gwneir pob penderfyniad yn deg ac yn wrthrychol. Ein nod, cyn belled ag y bydd yn rhesymol ymarferol, yw sicrhau bod ein holl arferion gwaith yn cael eu gweithredu'n deg ac yn gyson a, lle bydd angen, byddwn yn cymryd camau rhesymol i osgoi neu oresgyn unrhyw anfantais benodol y gallai'r rhain ei hachosi ac i hyrwyddo cydraddoldeb.

Mathau o wahaniaethu

Mae'r dilynol yn fathau o wahaniaethu y mae'r polisi hwn yn ceisio eu hosgoi:

  • Mae Gwahaniaethu Uniongyrchol yn digwydd pan fydd unigolyn yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd nodwedd warchodedig sydd ganddo neu y credir ei bod ganddo. Gall gwahaniaethu uniongyrchol ddigwydd hefyd trwy gysylltiad, a dyna pryd mae person yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd, er enghraifft, mae gan eu priod neu bartner neu berthynas arall y nodwedd warchodedig.
  • Mae Gwahaniaethu Anuniongyrchol yn digwydd pan weithredir darpariaeth, maen prawf neu arfer yn gyfartal i bawb, ond sy'n cael effaith anghymesur o niweidiol ar bobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig benodol. Mae gan berson sydd â'r nodwedd warchodedig sydd yn profi anfantais yn y ffordd honno'r hawl i gwyno.
  • Er mwyn cael ei gyfiawnhau rhaid i'r ddarpariaeth, y maen prawf neu'r arfer fod yn angenrheidiol am resymau busnes cyfreithlon mewn amgylchiadau lle nad oes dewisiadau amgen llai gwahaniaethol ar gael yn rhesymol.
  • Mae erledigaeth yn digwydd pan fydd rhywun yn cael ei drin yn anffafriol oherwydd ei fod wedi codi cwyn o dan y polisi hwn neu wedi cymryd camau cyfreithiol, mewn perthynas ag unrhyw weithred honedig o wahaniaethu anghyfreithlon, yn erbyn y Cwmni neu oherwydd ei fod ef/hi wedi cefnogi rhywun arall i wneud hyn.
  • Mae aflonyddu’n ymddygiad digroeso sy'n torri urddas unigolyn neu'n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, gwaradwyddus neu dramgwyddus. Gall aflonyddu fod ar sawl ffurf wahanol a gall gynnwys gweithredoedd, ymddygiad, sylwadau, e-byst neu gyswllt corfforol amhriodol sy'n achosi tramgwydd neu sy'n annerbyniol.
  • Gall aflonyddu gynnwys un digwyddiad neu ymddygiad parhaus sy'n ymestyn dros gyfnod o amser ac a all ddigwydd hyd yn oed os nad oedd rhywun yn bwriadu achosi tramgwydd. Mae hefyd yn golygu y gall unigolyn gael ei aflonyddu gan ymddygiad nad yw wedi'i anelu ato'n uniongyrchol ond sydd serch hynny yn annymunol.
  • Mae aflonyddu bob amser yn annerbyniol a lle mae'n ymwneud â nodwedd warchodedig bydd yn gyfystyr â gweithred anghyfreithlon o wahaniaethu.
  • Gwahaniaethu sy'n deillio o Anabledd - Yn ychwanegol at yr uchod, mae'n anghyfreithlon trin unigolyn yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy'n ganlyniad, effaith neu ôl-effaith i’w anabledd, oni bai bod y driniaeth yn angenrheidiol ac y gellir ei chyfiawnhau'n wrthrychol.Ymhellach, mae'n ddyletswydd ar gyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw ymgeiswyr, cyflogeion na gweithwyr eraill anabl dan anfantais sylweddol.

Creu cyfle cyfartal yn y gweithle

Mae nifer o ffyrdd y mae'r Cwmni'n anelu at sicrhau cyfle cyfartal yn y gweithle, gan gynnwys:

Recriwtio a dethol

Bydd gweithdrefnau recriwtio a dethol yn rhydd rhag rhagfarn neu wahaniaethu. Bydd gweithdrefnau recriwtio yn cael eu cynnal yn wrthrychol a byddant yn seiliedig ar feini prawf penodol a rhesymol sy'n gysylltiedig â swydd. Bydd penderfyniadau ynghylch addasrwydd unigolyn ar gyfer rôl benodol yn seiliedig ar ddawn a gallu.

Byddwn yn ystyried gwneud addasiadau rhesymol priodol i'r broses recriwtio i sicrhau nad yw ymgeiswyr anabl dan anfantais sylweddol.

Datblygu gyrfa a hyfforddi

Rhoddir cyfnod cynefino priodol i bob unigolyn i'w alluogi i gyflawni cyfrifoldebau eu rôl a chânt eu hannog i ddatblygu eu potensial llawn ac ni fyddwn yn afresymol ynghylch gwrthod mynediad i gyflogai i hyfforddiant neu gyfleoedd eraill i ddatblygu gyrfa

Amgylchedd gwaith

Mae gan bob unigolyn hawl i gael ei drin ag urddas a pharch ac mae CAVMS yn cymryd camau rhesymol i amddiffyn staff rhag gwahaniaethu, bwlio neu aflonyddu ac, os bydd cwyn, byddwn yn cymryd camau priodol i atal, cyn belled ag y bo modd, digwydd pellach.

Anogir yr holl staff i riportio unrhyw ddigwyddiadau o ymddygiad amhriodol neu annerbyniol yn y gwaith neu sy'n digwydd yn ystod cyflogaeth, ar neu oddi ar safle, gan gynnwys digwyddiadau cymdeithasol yn y gwaith (p'un a ydynt wedi'u trefnu gan CAVMS ai peidio) neu mewn digwyddiadau ffurfiol neu anffurfiol sy'n cynnwys staff , cwsmeriaid neu gysylltiadau eraill sy'n gysylltiedig â gwaith.

Codi cwyn o wahaniaethu

Os credwch y gwahaniaethwyd yn eich erbyn, dylech godi'r mater gyda rheolwyr CAVMS.

Gall unrhyw aelod o dîm CAVMS y canfyddir ei fod wedi cyflawni gweithred o wahaniaethu, neu wedi torri'r polisi hwn mewn unrhyw ffordd arall, fod yn destun camau ffurfiol priodol a allai, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gynnwys terfynu unrhyw gontract neu gytundeb.

Bydd y Cwmni hefyd yn cymryd o ddifrif unrhyw honiadau maleisus neu, yn ei farn ef, honiadau direswm o wahaniaethu a bydd yn cymryd camau priodol, disgyblu neu fel arall, lle bydd angen.