Gwybodaeth ar gyfer ysgolion uwchradd

Ysgolion Uwchradd

Ar hyn o bryd rydym yn gwasanaethu oddeutu 20 o ysgolion uwchradd yn Ne Cymru ac yn y rhan fwyaf o achosion rydym yn delio'n uniongyrchol â rhieni ynghylch ffioedd. Fodd bynnag, mae sawl ysgol yn dewis ‘prynu i mewn’ ein gwasanaeth ac mewn sawl achos maent wedi gwneud arbedion sylweddol trwy deilwra ein gwasanaeth i weddu i’w hanghenion yn fwyaf effeithlon.

Mae cefnogaeth gydag ensembles a chynyrchiadau ysgolion yn rhan fawr o'n gwasanaeth ac mae gennym lyfrgell helaeth o gerddoriaeth ar gyfer bandiau a cherddorfeydd.

Mae cefnogaeth arholiadau ymarferol ar lefel TGAU a Safon Uwch yn sylfaenol. Mae pob un o'n cerddorion sy'n addysgu yn y sector uwchradd yn brofiadol â gofynion yr arholiadau hyn, ac wedi arfer â pharatoi myfyrwyr ar gyfer y profion.

Yn ogystal â'r gwasanaethau a grybwyllwyd rydym yn cynnig:

Cefnogaeth a gweinyddiaeth lawn gyda chyrff archwilio allanol, yn nodweddiadol A.B.R.S.M. ac Ysgol Roc.

  • Arbenigedd mewnol gyda sawl pecyn meddalwedd recordio, sy'n ddelfrydol ar gyfer hyfforddiant mewn swydd ac wedi'i deilwra i'ch anghenion penodol.
  • Gweithdai ar gyfansoddi a datblygu sgiliau unigol.
  • Perthynas ragorol â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a'r Adran Dylunio Sain ym Mhrifysgol De Cymru.

video2

play

Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr

Mae Elin Edwards, tiwtor llinynnau CAVMS, yn siarad am y grŵp llinynnau yn YGG Plasmawr a manteision chwarae mewn ensemble.

Gweld rhagor o fideos

pic3

pic4