Am fod yn rhan o'r teulu CAVMS sy'n tyfu'n barhaus? Am ddysgu offeryn, datblygu ystod o sgiliau newydd a gwneud ffrindiau am oes? Cofrestrwch heddiw!
Gwybodaeth ar gyfer Rhieni
- Mae'r gost y tymor yn cael ei phennu yn ôl nifer a hyd y gwersi.
- Dim ond mewn rhai amgylchiadau y mae gwersi grŵp ar gael.
- Rhaid talu ar ddechrau'r tymor cyn gynted ag y derbynnir yr anfoneb.
- Rhaid talu'r swm llawn ar gyfer pob tymor, er y gallai plentyn ddymuno dod â gwersi i ben ar ôl ychydig wythnosau yn unig.
- Mae angen hysbysiad ysgrifenedig gan riant/gwarcheidwad i ddod â gwersi i ben, fel arall bydd gwersi’n parhau o dymor i dymor yn awtomatig.
- Ni ellir ad-dalu gwersi a gollwyd heb unrhyw fai ar yr athro (e.e. Gwyliau teulu, teithiau ysgol, gweithredu diwydiannol, absenoldeb plant ac ati), er y bydd staff yn gwneud pob ymdrech i wneud iawn am golli gwersi.
Cost Gwersi
- Mae gwersi grŵp (pan fyddant ar gael) yn costio £6.00 yr wythnos e.e. 2 yn rhannu 20 munud neu 3 yn rhannu 30 munud.
- Mae gwersi unigol yn dechrau ar £9.00 am 15 munud. Mae hyn yn golygu y bydd tymor nodweddiadol o 12 wythnos yn costio:
- Gwers grŵp: £72
- Gwers 15 munud unigol: £108
Sut i Dalu am Wersi
Mae gwersi yn cychwyn ar ôl derbyn y ffurflen gofrestru ar-lein. Anfonir anfoneb unwaith y bydd nifer a hyd y gwersi wedi'u cadarnhau.
Diolch am gofrestru!
Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhad yn fuan.