Croeso i Gerddorfa Jazz Ieuenctid CAVMS. Mae CYJO yn darparu cyfle i fyfyrwyr o ardal Caerdydd ddysgu sgiliau chwarae cerddoriaeth Jazz a Band Mawr. Mae repertoire CYJO yn cynnwys caneuon safonol gan rai fel Duke Ellington, Glen Miller a Count Basie, yn ogystal â chyfansoddiadau a threfniannau modern.
Ynglŷn â Ni
Cafodd CYJO ei ffurfio ym mis Medi 2003 ac maen nhw wedi chwarae mewn lleoliadau a gwyliau ledled y De. Ym mis Mawrth 2007 fe gawson nhw eu gwahodd i gynrychioli'r goreuon yng ngherddoriaeth ieuenctid Cymru fel rhan o Ŵyl Corau Meibion Cymru yn Neuadd Frenhinol Albert. Maen nhw’n cymryd rhan yn gyson yng ngŵyl ranbarthol Cerdd i Ieuenctid ac wedi’u gwahodd sawl tro i'r Ŵyl Genedlaethol yn Birmingham. Yn 2016 a 2018 cyrhaeddodd CYJO rowndiau terfynol cystadleuaeth Band Ieuenctid Cymru ar S4C.
Mae CYJO yn cael ei rhedeg fel ensemble mewn partneriaeth ag Addysg Gerdd CF a hynny fel rhan o’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth.
Cerddorfa Jazz Ieuenctid CAVMS - Summertime
Cerddorfa Jazz Ieuenctid CAVMS a'u recordiad o bell o alaw glasurol George Gershwin, Summertime, gyda Sol Maghur ar Drwmped.