Cyngor ar ymarfer

Sut i Annog eich Plentyn i Ymarfer Offeryn Cerddorol

Lawrlwytho siart ymarfer

Sefydlu Faint o Amser

Mae dechreuwyr angen 15 munud y dydd o leiaf dros 5 diwrnod yr wythnos. Bydd hyd yr amser yn cynyddu wrth i'r disgybl ddatblygu. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ymgynghorwch â'ch athro.

item2

item3

Trefn

Mae rhai plant yn ymateb yn dda i ddull arferol o ymarfer ar yr un amser bob dydd. Fel brwsio eu dannedd, byddant yn ei wneud yn ddyddiol heb feddwl.

Ansawdd

Mae’n bwysig ymarfer y gwaith a osodir gan yr athro ond dylid neilltuo amser ar gyfer ‘ffefrynnau’ sy’n hawdd eu cyflawni ac yn aml yn foddhaol iawn i’r disgybl.

quoteopenRydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi y gall rhieni ac ysgolion ymddiried yn llwyr ynon ni.quoteclose

Annog

Gellir annog trwy ganmol y sain well, (efallai trwy ei chymharu ag ymdrechion cynharach), mynegi mwynhad ynghylch yr alaw sy'n cael ei chwarae, gofyn am hen ffefrynnau ac ati. Peidiwch byth â gwneud ymarfer yn gosb h.y. 'Os gwnewch hynny eto bydda i’n gwneud i chi ymarfer am ddeg munud arall '!

Ensembles

Anogwch eich plentyn i ymuno ag ensemble cyn gynted â phosibl. Gall hwn fod yn fand neu'n grŵp yn yr ysgol, neu'n un o'r nifer o ensemblau y tu allan i'r ysgol sydd ar gael.

video1

play

Rob Morgan, Sacsoffonydd

Mae Robert yn siarad am ddysgu offeryn cerddorol a'r cyfleoedd y mae wedi'u rhoi iddo wrth iddo ddilyn ei yrfa fel meddyg.

Gweld rhagor o fideos