Cyngor am arholiadau

Gwybodaeth Sylfaenol

Mae arholiadau gradd yn cychwyn ar Radd 1 ac yn cynyddu mewn anhawster i Radd 8.

Cynhelir arholiadau bob tymor. Mae dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, fel arfer tua ail neu drydedd wythnos y tymor, ac erbyn hynny mae'n rhaid talu'r holl ffioedd. Cesglir y rhain gan yr athro offerynnol sy'n cofrestru pob myfyriwr gyda'r bwrdd arholi.

Yn aml ymhell ar ôl Hanner Tymor y bydd yr athro/athrawes yn cael gwybod am ddyddiadau'r arholiadau. Dewisir y diwrnod gan y bwrdd o fewn cyfnod arholi o 4-5 wythnos yn ystod y tymor. N.B. Bydd y mwyafrif o fyrddau yn cychwyn negodi ynghylch trafodaethau dyddiadau dim ond gyda'r unigolyn a gofrestrodd yr ymgeiswyr ac nid gyda rhieni.

Mae arholiadau’n cael eu sefyll mewn canolfannau cymeradwy a bydd disgwyl i chi fynd â'ch plentyn i'r ganolfan arholi ar yr amser penodedig.

Gellir cael ad-daliad rhannol gyda nodyn meddyg os nad yw plentyn yn gallu mynychu'r arholiad oherwydd salwch.

item1

item2

Arholiadau Gradd

Pryd fydd fy mhlentyn yn barod ar gyfer Arholiadau Gradd?

Mae hyn yn dibynnu ar faint ac ansawdd yr ymarfer, gallu'r myfyriwr a'r gallu i berfformio o dan amodau arholiad. Y cam mwyaf oll yw o'r cychwyn cyntaf i Radd 1, a dyna pam mae llawer o fyrddau arholi yn cynnig gradd baratoi neu brawf cyntaf fel paratoad ar gyfer yr arholiad gradd go iawn cyntaf.

Yr amser cyfartalog i fyfyriwr da gyrraedd Gradd 1 yw 18 mis ar gyfer Chwythbrennau a Phres ond dwy flynedd neu fwy ar gyfer tannau a phiano.

Pam cofrestru'ch plentyn ar gyfer Arholiadau Gradd?

Mae myfyrwyr sy'n sefyll arholiadau’n gwneud cynnydd gwell. Yn aml gall ddarparu'r cymhelliant i ysgogi plentyn i ymarfer a throi'r gornel. Mae'n ffordd o feintioli eu cyflawniadau, gan ddangos argraff dda o barodrwydd i weithio i ddarpar gyflogwyr. Fodd bynnag, nid yw'n ddoeth byth dilyn gwaith arholiad yn unig, a allfod yn llethol. Dylai plentyn fod ar lefel Gradd 3 cyn cael ei gofrestru, ac nid addysgu darnau gradd 3 iddo yn unig.

item3

Yr Arholiad

Mae hyn yn cymryd rhwng 10 a 30 munud gan ddibynnu ar y radd ac mae arholiadau bwrdd ABRSM/y Drindod yn cynnwys y dilynol:

  • 3 Darn
  • Graddfeydd, a ddewisir gan y bwrdd i weddu i'r lefel, a restrir yn y maes llafur i'w paratoi ar y cof.
  • Profion Clywedol - profion clust. Mae angen paratoi ac ymarfer ar gyfer y rhain naill ai gyda'r athro offerynnol neu'r cyfeilydd
  • Darllen wrth Weld - ymgais i berfformio darn o gerddoriaeth nas gwelwyd o'r blaen.

Mae recordiadau bellach ar gael i helpu wrth baratoi a bydd angen cyfeilydd piano ar gyfer offerynnau Cerddorfaol. Ni chaniateir llungopïau o gerddoriaeth yn yr arholiad.

Mae manylion y maes llafur ar gyfer arholiadau RGT ac RSL ar gael ar-lein.

Marcio a Chanlyniadau

Mae gan bob bwrdd system basio/methu sylfaenol yn dibynnu ar y marciau a gafwyd. Dyfernir teilyngdod i basiau uchel a dyfernir rhagoriaeth/anrhydedd i basiau eithriadol o uchel. Anfonir yr holl ganlyniadau at yr athro ac fel rheol maent yn cyrraedd rhwng 1 a 5 wythnos ar ôl sefyll yr arholiad. Os yw hyn yn debygol o gorgyffwrdd â Gwyliau’r ysgol, gellir rhoi amlen hunan-gyfeiriedig â stamp i athro'r plentyn ac yna bydd ef/hi yn anfon y canlyniad i gartref y plentyn. Mae'r athro hefyd yn derbyn taflen sylwadau a thystysgrif (os yw'n llwyddiannus) ar gyfer pob ymgeisydd.

Mae arholiadau'n cael eu rheoleiddio'n llawn gan OFQUAL a rhoddir lefel QCF iddynt; Gradd 4/5 yw QCF lefel 2 (TGAU) a Graddau 6/7/8 yw QCF lefel 3 (Safon Uwch).

Mae myfyrwyr â chymwysterau ABRSM yng Ngraddau 6 i 8 yn elwa o bwyntiau UCAS (Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau) y gellir eu defnyddio fel rhan o gais prifysgol neu goleg yn y DU.

Er enghraifft, mae Rhagoriaeth Gradd 8 yn ennill 30 pwynt sy'n cyfateb yn fras i Radd C ar Lefel A sy'n ennill 32 pwynt

item4

Arholiadau Theori

Er mwyn i fyfyriwr symud ymlaen i raddau ymarferol uwch (6-8) yr ABRSM rhaid iddo basio theori Cerddoriaeth Gradd 5 yn gyntaf. Papur ysgrifenedig yw hwn sy'n ymdrin â theori cerddoriaeth ysgrifenedig ac mae'n cwmpasu'r holl wybodaeth sylfaenol am fyselli, rhythm, harmoni ac offeryniaeth.

Mae llawer o'n hathrawon yn cynnig gwersi theori a dosbarthiadau mewn ysgolion uwchradd.

Pa Fwrdd?

Mae sawl bwrdd arholi. Y Bwrdd mwyaf adnabyddus ac a gydnabyddir yn rhyngwladol yw Associated Board of the Royal School of Music [Bwrdd Cysylltiedig yr Ysgol Gerdd Frenhinol] (ABRSM) ond mae'r rhan fwyaf o golegau Llundain yn cynnig arholiadau tebyg h.y. Coleg y Drindod Llundain a Choleg Cerdd Llundain). Bydd yr athro/athrawes yn dewis bwrdd am amryw resymau e.e. Darnau a ddewiswyd, cyfnod arholiadau, adrannau dewisol megis gwaith chwarae ar y pryd. Arholiadau Jazz yw'r opsiynau diweddaraf i'w cynnig i fyfyrwyr.

Mae RSL (Ysgol Roc) yn fwrdd sy'n arbenigo mewn cerddoriaeth gyfoes ar gyfer Gitâr, Bas, Drymiau a Phiano. Defnyddir y gair ‘roc’ mewn ystyr gyffredinol sy’n ymgorffori llawer o opsiynau gan gynnwys Canu’r Felan, Pop, Jazz ac ati. Daw’r llawlyfrau gyda CD fel bod yr arholiad yn cael ei sefyll gyda band cyfan!

Ac yn olaf, mae athrawon da yn ymchwilio i'r holl opsiynau a byddant yn rhoi'r cyngor sydd ei angen arnoch chi. Fodd bynnag, mae meysydd llafur ar gael o bob siop gerddoriaeth ac yn uniongyrchol o golegau.

ABRSMgb.abrsm.org

Trinitytrinitycollege.com

Rock School [Ysgol Roc]rslawards.com

RGTrgt.org

item5