Gwasanaeth cerddoriaeth annibynnol cyntaf Cymru
Cyflenwi hyfforddiant cerdd ar draws De Cymru ers 1993.
Gadewch i ni Wneud Cerddoriaeth
Ydych chi erioed wedi meddwl am ddysgu offeryn cerdd? Ydych chi erioed wedi meddwl pa gyfleoedd a sgiliau y bydd hyn yn eu datblygu?
Mae'r fideo hon gan Wasanaeth Cerdd Caerdydd a'r Fro yn ateb rhai o'r cwestiynau hyn, a gobeithio'n annog mwy o bobl ifanc i ddechrau chwarae offeryn cerdd a mwynhau'r daith gerddorol.
Ynglŷn â Ni
Sefydlwyd CAVMS ym 1993 gan John Leach, a daeth yn gwmni cyfyngedig yn 2002. Yn 2012 ymddeolodd John o'r tîm rheoli a chymerwyd y Cwmni drosodd gan David Miller a John Murray. Mae CAVMS bellach yn cyflwyno hyfforddiant cerdd o safon mewn dros 80 o ysgolion, gan ddysgu dros 2000 o fyfyrwyr bob wythnos.
Y Tîm
Dewisir tîm CAVMS i gyd am eu gallu i ennyn brwdfrydedd y dysgwr iau a rhoi cyfle iddynt ddysgu a pherfformio. Mae gan bob cerddor gliriad D.B.S. (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) llawn, Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus a Hyfforddiant Diogelu Plant a achredir yn rheolaidd, ynghyd â hyfforddiant rheolaidd mewn gwasanaeth ar dechnegau arholi, methodoleg addysgu gyfredol ac unrhyw fateron perthnasol eraill.
Mae'n gyflym ac yn hawdd cofrestru ar-lein Cofrestru
Ffrwd Twitter
