Telerau ac Amodau

1. Cyflwyniad

1.1 Bydd y telerau ac amodau hyn yn llywodraethu eich defnydd o'n gwefan.

1.2 Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych chi'n derbyn yr amodau a thelerau hyn yn llawn; yn unol â hynny, os ydych chi'n anghytuno â'r telerau ac amodau hyn neu unrhyw ran o'r telerau ac amodau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.

2. Rhybudd hawlfraint

2.1 Hawlfraint (c) 2018 CAVMS Ltd.

2.2 Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol yr amodau a thelerau hyn:

  1. rydym ni, ynghyd â'n trwyddedwyr, yn berchen ar ac yn rheoli'r holl hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill ar ein gwefan a'r deunydd ar ein gwefan; a
  2. cedwir yr holl hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill ar ein gwefan a'r deunydd ar ein gwefan.

3. Trwydded i ddefnyddio’r wefan

3.1 Gallwch:

  1. gweld tudalennau o'n gwefan mewn porwr gwe;
  2. lawrlwytho tudalennau o'n gwefan i'w storio mewn porwr gwe;
  3. printio tudalennau o'n gwefan; a
  4. ffrydio ffeiliau sain a fideo o'n gwefan

yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr amodau a thelerau hyn.

3.3 Dim ond at ddibenion busnes y cewch ddefnyddio ein gwefan, a rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion eraill.

3.4 Ac eithrio fel y caniateir yn benodol gan yr amodau a thelerau hyn, rhaid i chi beidio â golygu nac addasu unrhyw ddeunydd ar ein gwefan fel arall.

3.5 Oni bai eich bod yn berchen ar yr hawliau perthnasol yn y deunydd neu'n eu rheoli, rhaid i chi beidio ag:

  1. ailgyhoeddi deunydd o'n gwefan (gan gynnwys ailgyhoeddi ar wefan arall);
  2. gwerthu, rhentu neu is-drwyddedu deunydd o'n gwefan;
  3. dangos unrhyw ddeunydd o'n gwefan yn gyhoeddus;
  4. manteisio ar ddeunydd o'n gwefan at bwrpas masnachol; neu
  5. ailddosbarthu deunydd o'n gwefan.

3.6 Er gwaethaf Adran 3.5, gallwch ailddosbarthu ein ffurflen gofrestru ar ffurf print ac electronig i unrhyw berson.

3.7 Rydym yn cadw'r hawl i gyfyngu mynediad i rannau o'n gwefan, neu yn wir ein gwefan gyfan, yn ôl ein disgresiwn; rhaid i chi beidio â gochel nag osgoi, na cheisio gochel neu osgoi, unrhyw fesurau cyfyngu mynediad ar ein gwefan.

4. Defnydd derbyniol

4.1 Rhaid i chi beidio â:

  1. defnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd neu gymryd unrhyw gamau sy'n achosi, neu a allai achosi, niwed i'r wefan neu amhariad ar berfformiad, argaeledd neu hygyrchedd y wefan;
  2. defnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd sy'n anghyfreithlon, yn groes i'r gyfraith, yn dwyllodrus neu'n niweidiol, neu mewn cysylltiad ag unrhyw bwrpas neu weithgaredd anghyfreithlon, sy’n groes i'r gyfraith, twyllodrus neu niweidiol;
  3. defnyddio ein gwefan i gopïo, storio, cynnal, trosglwyddo, anfon, defnyddio, cyhoeddi neu ddosbarthu unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys (neu sy'n gysylltiedig ag) unrhyw ysbïwedd, feirws cyfrifiadurol, ceffyl pren Troia, mwydyn, cofnodwr trawiadau bysellau, gwreiddwedd neu feddalwedd gyfrifiadurol faleisus arall;

5. Cofrestru a chyfrifon

5.1 I fod yn gymwys i fewngofnodi fel Athro ar ein gwefan o dan yr adran 5 hon, rhaid i chi fod yn aelod o dîm CAVMS.

5.2 Rhaid i chi beidio â chaniatáu i unrhyw berson arall ddefnyddio'ch cyfrif i gael mynediad i'r wefan.

5.3 Rhaid i chi ein hysbysu yn ysgrifenedig ar unwaith os dewch yn ymwybodol o unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o'ch mewngofnodi.

5.4 Rhaid i chi beidio â defnyddio manylion mewngofnodi unrhyw berson arall i gael mynediad i'r wefan.

6. Manylion mewngofnodi’r defnyddiwr

6.1 Rhaid i chi gadw'ch cyfrinair yn gyfrinachol.

6.2 Rhaid i chi ein hysbysu yn ysgrifenedig ar unwaith os dewch yn ymwybodol o unrhyw ddatgeliad o'ch cyfrinair.

6.3 Rydych chi'n gyfrifol am unrhyw weithgaredd ar ein gwefan sy'n deillio o unrhyw fethiant i gadw'ch cyfrinair yn gyfrinachol, a gellir eich dal yn atebol am unrhyw golledion sy'n deillio o fethiant o'r fath.

7. Canslo ac atal cyfrif

7.1 Gallwn ni:

  1. atal eich mewngofnodi;
  2. canslo'ch mewngofnodi; a/neu
  3. golygu eich manylion mewngofnodi,

ar unrhyw adeg yn ôl ein disgresiwn llwyr heb rybudd nac esboniad.

8. Gwarantau cyfyngedig

8.1 Nid ydym yn gwarantu nac yn mynegi:

  1. cyflawnrwydd neu gywirdeb y wybodaeth a gyhoeddir ar ein gwefan;
  2. bod y deunydd ar y wefan yn gyfredol; neu
  3. y bydd y wefan neu unrhyw wasanaeth ar y wefan yn parhau i fod ar gael.

8.2 Rydym yn cadw'r hawl i derfynu neu newid unrhyw un neu bob un o'n gwasanaethau gwefan, ac i roi'r gorau i gyhoeddi ein gwefan, ar unrhyw adeg yn ôl ein disgresiwn llwyr heb rybudd nac esboniad; a heblaw i'r graddau y darperir yn benodol fel arall yn yr amodau a thelerau hyn, ni fydd gennych hawl i unrhyw iawndal neu daliad arall ar derfynu neu newid unrhyw wasanaethau gwefan, neu os byddwn yn rhoi'r gorau i gyhoeddi'r wefan.

8.3 I'r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol ac yn ddarostyngedig i Adran 9.1, rydym yn cau allan pob mynegiad a gwarant sy'n ymwneud â phwnc y telerau ac amodau hyn, ein gwefan a defnydd o’n gwefan.

9. Cyfyngiadau ac eithriadau atebolrwydd

9.1 Ni fydd unrhyw beth yn y telerau ac amodau hyn yn:

  1. cyfyngu neu eithrio unrhyw atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy'n deillio o esgeulustod;
  2. cyfyngu neu eithrio unrhyw atebolrwydd am dwyll neu gamliwio twyllodrus;
  3. cyfyngu ar unrhyw rwymedigaethau mewn unrhyw ffordd na chaniateir o dan y gyfraith berthnasol; neu
  4. eithrio unrhyw rwymedigaethau na chaniateir eu heithrio o dan y gyfraith berthnasol.

9.2 Mae’r cyfyngiadau ac eithriadau atebolrwydd a nodir yn Adran 11 ac mewn mannau eraill yn y telerau ac amodau hyn yn:

  1. ddarostyngedig i Adran 11.1; ac yn
  2. llywodraethu pob rhwymedigaeth sy'n codi o dan y telerau ac amodau hyn neu'n ymwneud â chynnwys y telerau ac amodau hyn, gan gynnwys rhwymedigaethau sy'n codi mewn contract, mewn camwedd (gan gynnwys esgeulustod) ac am dorri dyletswydd statudol, ac eithrio i'r graddau y darperir yn benodol fel arall yn y telerau ac amodau hyn.

9.3 I'r graddau y darperir ein gwefan a'r wybodaeth a'r gwasanaethau ar ein gwefan yn rhad ac am ddim, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw natur.

9.4 Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golledion sy'n codi o unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth resymol.

9.5 Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golledion busnes, gan gynnwys (heb gyfyngiad) colli neu ddifrodi elw, incwm, refeniw, defnydd, cynhyrchiant, arbedion disgwyliedig, busnes, contractau, cyfleoedd masnachol neu ewyllys da.

9.6 Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golled neu lygredd o unrhyw ddata, cronfa ddata neu feddalwedd.

9.7 Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golled neu ddifrod arbennig, anuniongyrchol neu ganlyniadol.

9.8 Rydych yn derbyn bod gennym fuddiant mewn cyfyngu atebolrwydd personol ein swyddogion a'n cyflogeion ac, o ystyried y buddiant hwnnw, rydych yn cydnabod ein bod yn endid atebolrwydd cyfyngedig; rydych yn cytuno na fyddwch yn dwyn unrhyw hawliad yn bersonol yn erbyn ein swyddogion neu gyflogeion mewn perthynas ag unrhyw golledion yr ydych yn eu dioddef mewn cysylltiad â'r wefan neu'r telerau ac amodau hyn (ni fydd hyn, wrth gwrs, yn cyfyngu nac yn cau allan atebolrwydd yr endid atebolrwydd cyfyngedig ei hun am weithredoedd a hepgoriadau ein swyddogion a'n cyflogeion).

10. Torri'r telerau ac amodau hyn

10.1 Heb ragfarnu ein hawliau eraill o dan yr amodau a thelerau hyn, os byddwch yn torri'r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw ffordd, neu os ydym yn amau'n rhesymol eich bod wedi torri'r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw ffordd, gallwn:

  1. anfon un neu fwy o rybuddion ffurfiol atoch;
  2. atal eich mynediad i'n gwefan dros dro;
  3. eich gwahardd yn barhaol rhag cyrchu ein gwefan;
  4. cychwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn, p'un ai am dorri contract neu fel arall; a/neu
  5. atal neu ddileu eich mynediad ar ein gwefan.

10.2 Pan fyddwn yn atal neu'n gwahardd neu'n rhwystro'ch mynediad i'n gwefan neu ran o'n gwefan, rhaid i chi beidio â chymryd unrhyw gamau i osgoi'r ataliad neu'r gwaharddiad neu'r blocio hwnnw.

11. Amrywio

11.1 Efallai y byddwn yn adolygu'r telerau ac amodau hyn o bryd i'w gilydd.

11.2 Bydd y telerau ac amodau diwygiedig yn berthnasol i ddefnyddio ein gwefan o ddyddiad cyhoeddi'r telerau ac amodau diwygiedig ar y wefan, a byddwch trwy hyn yn ildio unrhyw hawl y bydd rhaid i chi fel arall gael gwybod amdani neu i gydsynio â hi o'r telerau ac amodau hyn.

11.3 Os ydych wedi rhoi eich cytundeb penodol i'r telerau ac amodau hyn, byddwn yn gofyn am eich cytundeb penodol i unrhyw adolygiad o'r telerau ac amodau hyn; ac os na roddwch eich cytundeb penodol i'r telerau ac amodau diwygiedig o fewn y cyfnod y byddwn yn ei nodi, byddwn yn analluogi neu'n dileu eich gallu i fewngofnodi ar y wefan, a bydd rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio'r wefan.

12. Aseinio

12.1 Rydych yn cytuno trwy hyn y gallwn aseinio, trosglwyddo, is-gontractio neu ddelio fel arall â'n hawliau a/neu rwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn.

12.2 Ni chewch, heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw, aseinio, trosglwyddo, is-gontractio neu ddelio fel arall ag unrhyw un o'ch hawliau a/neu rwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn.

13. Toradwyedd

13.1 Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn penderfynu bod darpariaeth o'r telerau ac amodau hyn yn anghyfreithlon a/neu'n anorfodadwy, bydd y darpariaethau eraill yn parhau i fod yn weithredol.

13.2 Os byddai unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon a/neu anorfodadwy o'r telerau ac amodau hyn yn gyfreithlon neu'n orfodadwy pe byddai rhan ohoni'n cael ei dileu, bernir bod y rhan honno wedi'i dileu, a bydd gweddill y ddarpariaeth yn parhau i fod yn weithredol.

14. Hawliau trydydd parti

14.1 Mae contract o dan y telerau ac amodau hyn er ein budd ni a'ch budd chi, ac ni fwriedir iddo fod o fudd I nac yn orfodadwy gan unrhyw drydydd parti.

14.2 Nid yw arfer hawliau'r partïon o dan gontract o dan y telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i gydsyniad unrhyw drydydd parti.

15. Cytundeb cyfan

15.1 Yn ddarostyngedig i Adran 9.1, bydd y telerau ac amodau hyn, ynghyd â'n polisi preifatrwydd, yn ffurfio'r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni mewn perthynas â'ch defnydd o'n gwefan a byddant yn disodli'r holl gytundebau blaenorol rhyngoch chi a ni mewn perthynas â'ch defnydd o’n gwefan.

16. Y gyfraith ac awdurdodaeth

16.1 Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfraith y DU.

16.2 Bydd unrhyw anghydfodau sy'n ymwneud â'r telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd y DU.

17. Datgeliadau statudol a rheoliadol

17.1 Rydym wedi’n cofrestru yng Nghymru; gallwch ddod o hyd i'r fersiwn ar-lein o'r gofrestr yn https://beta.companieshouse.gov.uk/company/05306170, a'n rhif cofrestru yw 05306170.

18. Ein manylion

18.1 CAVMS Cyf sy'n berchen ar y wefan hon ac yn ei gweithredu.

18.2 Rydym wedi’n cofrestru yng Nghymru o dan rif cofrestru 05306170, ac mae ein swyddfa gofrestredig ynTŷ Hafren, Rhodfa Hazell, Casnewydd, NP10 8FY.

18.3 Mae ein prif le busnes yng Nghanolfan Fusnes Cwrt Henstaff, Heol Llantrisant, Groes Faen, Caerdydd, CF72 8NG.

18.4 Gallwch gysylltu â ni:

  1. trwy'r post, gan ddefnyddio'r cyfeiriad post a roddir uchod;
  2. dros y ffôn, ar y rhif cyswllt a gyhoeddir ar ein gwefan; neu
  3. trwy e-bost, gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a gyhoeddir ar ein gwefan.

19. Swyddog diogelu data

19.1 Manylion cyswllt ein swyddog diogelu data yw: David Miller, dm@cavms.co.uk