

Ar ddydd Mawrth 24 Chwefror, ymunodd Band Mawr Ieuenctid Gwent â Cherddorfa Jazz Ieuenctid CAVMS (CYJO) ar gyfer dathliad gwych o gerddoriaeth. Diddanodd y ddau fand dorf lawn gyda detholiad gwych o glasuron Band Mawr a siartiau cyfoes.
Yn benodol, chwaraeodd CYJO 4 siart a gyfansoddwyd fel rhan o Brosiect Cerddorfa Jazz Ieuenctid Jazz North; Cascara gan Flo Taylor, Glow gan Nikki Iles, The Seven Foot Warrior and the Accidental Unicorn gan Laura Cole a Seize the Day gan Phil Meadows. Dangosodd y cerddorion ifanc brwdfrydedd mawr wrth chwarae’r repertoire heriol yma ac roedd yna byrfyfyrio gwych drwy gydol y band.


