Noson Gerddoriaeth 2025

Gorffenaf 2025

Yn Ôl i’r Newyddion

Ar 8 Gorffennaf, aeth CYJO ar lwyfan Neuadd Hoddinott ar gyfer noson Gerddoriaeth diwedd y flwyddyn, ochr yn ochr â Cherddoriaeth Ieuenctid y Brifddinas a chorau o Ysgol Olchfa ac Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi.

Mwynhaodd cynulleidfa lawn noson wych o gerddoriaeth, o fariau agoriadol Also Sprach Zarathustra i drefniant hudolus o Somewhere Over the Rainbow gan Grŵp lleisiol Rhapsody Corpus Christi.

Diddanodd CYJO bawb gyda rhai unawdau Jazz gwych ledled y band ar siartiau mor amrywiol â "Nous Blue" Myles Collin a chyfansoddiad gwreiddiol Gareth Roberts "Ysgyryd Fawr".