Cwpl o ddiwrnodau gwych gyda Phedwarawd Sacsoffon o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn cynnal cyngherddau yn Abertawe a Phenarth. Clywodd y myfyrwyr amrywiaeth enfawr o repertoire, o Philip Glass i Glen Miller, a gwnaethant fwynhau canu yn arbennig i drefniant y pedwarawd o Defying Gravity o’r sioe gerdd Wicked.