Noson o adloniant ysblennydd yng nghwmni cerddorion ifanc lleol dawnus, o opera clasurol i seiniau’r sgrin fawr. Mae Noson o Gerddoriaeth yn arddangos doniau pres, chwythbrennau ac offerynnau taro yr elusen pobl ifanc Capital Youth Music ar y llwyfan gyda Cherddorfa Jazz a chorau ysgol CAVMS, Gwasanaeth Cerddoriaeth Caerdydd a’r Fro.