Ensemble Creadigol CYJO

Gorffenaf 2021

Yn Ôl i’r Newyddion

Gan ddechrau ym mis Medi 2021, bydd Ensemble Creadigol CYJO a ffurfiwyd yn ddiweddar yn cynnig cyfle i gerddorion ifanc greu cerddoriaeth gyda'i gilydd mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol. Gan ganolbwyntio ar sgiliau clywedol a byrfyfyr yn hytrach na nodiant ysgrifenedig, mae'r ensemble newydd hwn yn agored i bob offeryn a phob safon. Dan arweiniad ein tiwtoriaid arbenigol, bydd y cerddorion ifanc yn cael cyfle i archwilio gwahanol strwythurau rhythmig a harmonig, gan greu'r gerddoriaeth eu hunain a’i arwain i gyfeiriadau newydd.

Ochr yn ochr â cherddorfa ieuenctid lwyddiannus iawn y CAVMS Youth Jazz Orchestra (CYJO), mae'r ensemble newydd hwn yn nodi dechreuad y broses o ehangu dull mwy creadigol o greu cerddoriaeth ensemble, gan arwain at sefydlu Academi Ranbarthol NYJO yng Nghaerdydd yn 2023.

Rydym yn hynod ddiolchgar i gronfa Ysbrydoli Tŷ Cerdd am eu cefnogaeth. Ni fyddai'r prosiect hwn yn bosibl hebddynt.