Diwrnod Dysgu Chwarae CAVMS / Pencerdd

Mawrth 2019

Yn Ôl i’r Newyddion

Ar ddydd Sadwrn 23 Mawrth, cynhaliwyd Diwrnod Dysgu Chwarae cyntaf CAVMS yn Pencerdd Music, Penarth.  Gyda chymorth caredig Undeb y Cerddorion, darparodd CAVMS 4 tiwtor – Jenny Weir (Chwythbrennau), Lizzie Prendergast (Ffidl), Sion Jones (Pres) ac Adam Williams (Gitâr). Agorodd Pencerdd Music eu hystafelloedd arddangos a threialu i’r athrawon, a darparu’r offerynnau.

Agorodd y drysau am 10am a gwelsom lif cyson o ryw 50 o bobl yn dod trwy’r drysau hyd at 4pm. Rhoddodd y rhan fwyaf ohonynt gynnig ar yr holl offerynnau a phrynodd nifer dda offerynnau neu fynd â manylion sut i gofrestru ar gyfer gwersi yn eu hysgol gyda nhw.  Mewn sawl achos, rhoddodd y rhieni gynnig arni hefyd, a stori hyfrytaf y dydd oedd menyw ddaeth i mewn yn dweud ei bod yn arfer chwarae’r Ffidl yn yr ysgol, gan gyrraedd gradd 7.  Rhoddodd gynnig ar ffidl a chafodd syndod ar yr ochr orau gymaint yr oedd yn ei gofio!  Yn nes ymlaen y prynhawn hwnnw, dychwelodd i’r siop, ar ôl bod adref a chanfod bod ei hen ffidl yn yr atig.  Prynodd set o linynnau a cherddoriaeth am ei bod eisiau dechrau chwarae unwaith eto!