Ddydd Mercher 8 Chwefror gwelwyd Cerddorfa Jazz Ieuenctid CAVMS a Band Mawr De Gwent yn diddanu'r cefnogwyr cerddoriaeth yng Nghymdeithas Bandiau Mawr De Cymru. Gwelodd y noson ystod enfawr o gerddoriaeth o Count Basie a Duke Ellington i Blues Brothers ac Adele. Cafodd pawb a gymerodd ran noson wych a hoffent ddiolch i Malcolm a'r tîm yng Nghymdeithas Bandiau Mawr De Cymru am eu croeso cynnes.