Ar ddydd Iau 9 Chwefror, ymunodd cerddorion ifanc ar draws De Cymru â Band y Gwarchodlu Cymreig yn Ysgol St Cyres, Penarth, am ddiwrnod o weithdai a dosbarthiadau meistr. Cafodd y myfyrwyr i gyd fudd mawr o weithio gyda’r Band a dysgu am fywyd fel cerddor yn y fyddin.