Croeso i Gerddorfa Jazz Ieuenctid CAVMS. Mae CYJO yn darparu cyfle i fyfyrwyr o ardal Caerdydd ddysgu sgiliau chwarae cerddoriaeth Jazz a Band Mawr. Mae repertoire CYJO yn cynnwys caneuon safonol gan rai fel Duke Ellington, Glen Miller a Count Basie, yn ogystal â chyfansoddiadau a threfniannau modern.
Newydd ar gyfer 2021 – Ensemble Creadigol CYJO
Gan ddechrau ym mis Medi 2021, bydd Ensemble Creadigol newydd CYJO yn rhoi cyfle i gerddorion ifanc greu cerddoriaeth gyda’i gilydd mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol. Gan ganolbwyntio ar sgiliau clywedol a byrfyfyrio yn hytrach na nodiant ysgrifenedig, mae’r ensemble newydd hwn yn agored i bob offeryn a phob safon. Wedi ei arwain gan ein tiwtoriaid arbenigol, bydd gan y cerddorion ifanc gyfle i archwilio strwythurau rhythmig a harmonig, gan greu’r gerddoriaeth eu hunain a mynd â hi i gyfeiriadau newydd.
Mae’r ensemble newydd hwn, a gynhelir ar y cyd â Cherddorfa Jazz Ieuenctid (CYJO) lwyddiannus iawn CAVMS, yn nodi dechrau ymagwedd fwy creadigol tuag at greu cerddoriaeth ensemble, gan arwain at sefydlu Academi Ranbarthol NYJO yng Nghaerdydd yn 2023.
Rydym yn ddiolchgar iawn i gronfa Ysbrydoli Ty-Cerdd am eu cefnogaeth. Heb eu cymorth nhw, ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl.
Ynglŷn â Ni
Wedi’i ffurfio ym mis Medi 2003, mae CYJO wedi chwarae mewn nifer o leoliadau yn Ne Cymru gan gynnwys Neuadd Dewi Sant a Chanolfan Mileniwm Cymru, Cymdeithas Jazz Abertawe a Chlwb Jazz Dempsey. Ym mis Mawrth 2007 cawson nhw eu gwahodd i gynrychioli'r gorau o Gerddoriaeth Ieuenctid Cymru fel rhan o Ŵyl Corau Meibion Cymru yn Neuadd Albert, Llundain.
Mae ganddyn nhw hefyd raglen gyfnewid barhaus gydag Ysgol Uwchradd Glenbrook, Chicago, UDA.
Mae'r Gerddorfa ar gael i'w llogi ar gyfer digwyddiadau o unrhyw faint, boed yn gyflwyniad corfforaethol, croeso i arddangosfa, cerddoriaeth gefndirol, ciniawau neu barti. Os gallwch gynnig nawdd i'r bobl ifanc dalentog hyn o Gymru neu os ydych am eu harchebu ar gyfer adloniant gwych, cysylltwch â swyddfa CAVMS.
Cerddorfa Jazz Ieuenctid CAVMS - Summertime
Cerddorfa Jazz Ieuenctid CAVMS a'u recordiad o bell o alaw glasurol George Gershwin, Summertime, gyda Sol Maghur ar Drwmped.